Trawsnewid Gofal Canser Trwy Addysg
Academi Oncoleg Felindre ydy'r academi ganser gyntaf erioed yng Nghymru. Mae’r Academi, sy’n ymroddedig i drawsnewid gofal canser trwy addysg, yn darparu hyfforddiant oncoleg a sgiliau clinigol i staff ar lefel genedlaethol a rhyngwladol, gyda'r nod o ddatblygu ein gweithlu a chreu canlyniadau gwell i gleifion.
Yn rhan o Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre a Gwasaneath Canser Felindre, mae'r Academi yn darparu hyfforddiant a rhaglenni DPP i nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol, gan gynnwys gweminarau, cyrsiau byr a chymwysterau ôl-raddedig. Mae ein rhaglenni’n cael eu cyflwyno trwy gyfrwng sawl dull, gan gynnwys ar sail rithwir ac wyneb yn wyneb, gan roi hyblygrwydd i’r gweithlu gofal iechyd heb gyfaddawdu ar lefel yr ymgysylltu ac ansawdd y ddarpariaeth.
Mewn partneriaeth â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, bydd yr Academi yn cynnig cyrsiau achrededig gwerthfawr dros ben, a fydd yn y pen draw, yn gwella profiadau a chanlyniadau i gleifion.
Ein Cenhadaeth
Mewn partneriaeth â chleifion ac ymarferwyr arbenigol, rydym yn llywio dyfodol gofal canser trwy addysg, ac yn creu diwylliant o wybodaeth a sgiliau i gyflawni rhagoriaeth.
Ein Cenhadaeth
Mewn partneriaeth â chleifion ac ymarferwyr arbenigol, rydym yn llywio dyfodol gofal canser trwy addysg, ac yn creu diwylliant o wybodaeth a sgiliau i gyflawni rhagoriaeth.
Hannah Russon
Pennaeth Academi Oncoleg Felindre
RN Oedolion, BSc Anrh, MSc Addysg ar gyfer Gweithwyr Iechyd Proffesiynol, TAR
Jen Pugh
Rheolwr Cymorth Busnes
Callum Hague
Rheolwr Prosiect
Hannah Russon
Pennaeth Academi Oncoleg Felindre
RN Oedolion, BSc Anrh, MSc Addysg ar gyfer Gweithwyr Iechyd Proffesiynol, TAR
Jen Pugh
Rheolwr Cymorth Busnes
Callum Hague
Rheolwr Prosiect
Abi Ghuman
Swyddog Marchnata a Digwyddiadau
Main Al-Najjar
Swyddog Cymorth Digidol
Tracy Rees
Darlithydd Ymarferydd – MSc BSc RN FHEA
Abi Ghuman
Swyddog Marchnata a Digwyddiadau
Main Al-Najjar
Swyddog Cymorth Digidol
Tracy Rees
Darlithydd Ymarferydd – MSc BSc RN FHEA
Trudie Clark
Nyrs Arbenigol Arweiniol – Hyfywedd Meinwe
Trudie Clark
Nyrs Arbenigol Arweiniol – Hyfywedd Meinwe
Aelodau Cyswllt y Gyfadran
Mae Carla, Yasmin, Fran a Hannah (o’r chwith i’r dde) o Dîm Addysg Nyrsio SACT Gwasanaeth Canser Felindre.
Mae Carla, Yasmin a Fran yn Nyrsys Datblygu Ymarfer. Hannah yw’r Nyrs Arweiniol Addysg, Datblygu a Recriwtio, a hi sy’n arwain yr adran.
Ynghyd â’n gweithwyr proffesiynol yn y Gwasanaeth Canser, maen nhw’n datblygu a chyflwyno ein cyrsiau, ac yn sicrhau bod rhaglenni’n gyfredol ac yn adlewyrchu arferion ar lawr gwlad.