Datganiad Hygyrchedd
Datganiad Hygyrchedd
Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’).
Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i Academi Oncoleg Felindre, Adran o fewn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre: https://felindre.gig.cymru/
Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Academi Oncoleg Felindre. Rydym eisiau i gymaint o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu:
Rydym hefyd wedi sicrhau bod testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall. Mae cyngor ar gael gan AbilityNet ynghylch gwneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych chi anabledd.
Pa mor hygyrch yw'r wefan hon
Rydym yn gwybod nad yw pob rhan o'r wefan hon yn gwbl hygyrch:
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os oes angen gwybodaeth arnoch ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel dogfen PDF hygyrch, print bras, hawdd ei deall, recordiad sain neu braille, cysylltwch â voa@wales.nhs.uk yn gyntaf, a byddwn yn trosglwyddo eich cais i'r tîm perthnasol. Byddwn yn ystyried eich cais ac yn ymateb cyn gynted â phosibl.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon
Rydym yn awyddus bob amser i geisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn ymwybodol o unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon, neu os na fyddwch o’r farn ein bod yn bodloni gofynion o ran hygyrchedd, cysylltwch â voa@wales.nhs.uk
Gweithdrefn gorfodi
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn hapus gyda sut rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Gallwch gysylltu â ni dros y ffôn neu dewch i’n gweld ni mewn person.
Rydym yn darparu gwasanaeth cyfnewid testun i bobl sy'n fyddar, yn drwm eu clyw neu sydd â nam ar eu lleferydd trwy RelayUK www.relayuk.bt.com.Os oes angen i chi gysylltu gydag un o'n swyddfeydd gan ddefnyddio'r gwasanaeth cyfnewid testun hwn, deialwch 18001 cyn y rhif ffôn yr hoffech gysylltu ag ef.
Mae gan rhai o’n hysbytai / swyddfeydd ddolenni sefydlu sain, ac os byddwch yn cysylltu â ni cyn eich ymweliad, gallwn drefnu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL). Os nad yw eich ymweliad wedi cael ei drefnu ymlaen llaw, gallwn drefnu Dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain ar-lein.
Cysylltwch â’r Tîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant drwy ffonio:
Rhif ffôn: 18001 (os ydych yn defnyddio Relay UK) yna 01554 899055
E-bost: Inclusion.hdd@wales.nhs.uk
Drwy’r post: Tîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, Partneriaethau Strategol, Bloc 6, Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli SA14 8QF
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’).
Statws cydymffurfio
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2, oherwydd y diffyg cydymffurfio â’r eithriadau a restrir isod. Dyddiad: 18 Mawrth 2025
Cynnwys nad yw'n hygyrch
Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.
Diffyg cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd
Er ein bod yn ymdrechu i fodloni meini prawf llwyddiant AA ' WCAG 2.2, mae gennym y materion diffyg cydymffurfio a ganlyn ar hyn o bryd:
Llywio a chael gafael ar wybodaeth
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Dogfennau PDF a dogfennau eraill
Nid yw ein gwefan yn cadw gwybodaeth sydd wedi'i thargedu at gleifion.
Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio dogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Fodd bynnag, byddwn yn gwneud ein gorau glas i wneud unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd yn hygyrch lle bynnag y bo modd.
Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd
Rydym yn gwneud ein gorau glas i wneud cynnwys newydd mor hygyrch â phosibl.
Fel sefydliad, rydym yn:
Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ym mis Mawrth 2025.