Cyrsiau Achrededig

Yn Academi Oncoleg Felindre, rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau sydd wedi’u cynllunio i wella ymarfer oncoleg a sgiliau clinigol. Mae ein cyrsiau, sydd yn cael eu darparu o fewn Gwasanaeth Canser Felindre ac mewn partneriaeth â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a sefydliadau fel Advancing Radiotherapi Cymru (ARC), wedi’u seilio ar ymchwil ac arfer proffesiynol o’r radd flaenaf, ac yn rhoi’r adnoddau sydd eu hangen ar weithwyr gofal iechyd proffesiynol i drawsnewid gofal cleifion.

Mae ein cyrsiau’n addas iawn ar gyfer yr holl weithwyr iechyd proffesiynol presennol a’r darpar weithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru, y DU ac ar draws y byd.

Yn Academi Oncoleg Felindre, rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau sydd wedi’u cynllunio i ddatblygu arfer proffesiynol, a gwella gwybodaeth oncoleg a sgiliau clinigol. Wedi’u darparu o fewn Gwasanaeth Canser Felindre ac mewn partneriaeth â sefydliadau fel Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac ARC, mae ein cyrsiau wedi’u seilio ar ymchwil ac arfer proffesiynol o’r radd flaenaf, gan roi’r offer sydd eu hangen ar weithwyr gofal iechyd proffesiynol i drawsnewid gofal cleifion.

Mae ein cyrsiau’n addas iawn ar gyfer yr holl weithwyr iechyd proffesiynol presennol a’r darpar weithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru, y DU ac ar draws y byd.

Y Cyrsiau Sydd ar Gael

Cliciwch yma i ddarllen mwy am y cwrs Rheoli ac Asesu Clwyfau Malaen

Nod y modiwl hwn yw galluogi dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau wrth asesu a rheoli pobl â chlwyfau malaen. Mae yna nifer o resymau pam mae clwyfau malaen yn digwydd ac maen nhw'n cael effaith fawr ar ansawdd bywyd yr unigolyn a'i amgylchedd gofal. Mae unigolion â chlwyfau malaen yn darparu heriau clinigol cymhleth i weithwyr gofal iechyd proffesiynol ac yn aml mae prinder ymchwil i gefnogi ymarfer clinigol. Bydd y modiwl hwn yn darparu cyngor pragmatig wedi'i gefnogi gan y cysyniadau damcaniaethol sylfaenol sy'n anelu at ddarparu'r 'pam' a 'sut' i glinigwyr, gan olygu bod gan y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol ymagwedd fwy hyderus wrth ofalu am yr unigolion hyn.

Cyrsiau Achrededig (I ddod yn fuan)

Rheoli ac Asesu Clwyfau Maleen

(BMAC7501 – VOA Achrededig PCYDDS)

Therapi Gwrth-ganser Systemig (SACT)

(Achrediad yn yr Arfaeth)

Diffiniad Targed ar gyfer Radiotherapi'r Prostad

(Achrediad yn yr Arfaeth)

Imiwnotherapi

(Achrediad yn yr Arfaeth)

Gwasanaeth Oncoleg Acíwt

(Achrediad yn yr Arfaeth)

Arloesi mewn Gofal Iechyd

(Achrediad yn yr Arfaeth)

Hanfodion Gofal Canser

(Achrediad yn yr Arfaeth)

Manteisiwch ar y cyfle i wella eich arbenigedd ym maes oncoleg a chael effaith barhaol ar fywydau cleifion a'u teuluoedd

Manteisiwch ar y cyfle i wella eich arbenigedd ym maes oncoleg a chael effaith barhaol ar fywydau cleifion a'u teuluoedd