Hyfforddiant Genomeg wedi'i Ariannu

Beth yw genomeg?

Genomeg yw astudiaeth genynnau person (genom). Mae'n ddisgyblaeth sy'n datblygu'n gyflym ac sy'n cynnig cyfleoedd i drawsnewid y gofal y mae cleifion yn ei dderbyn, ac mae rhai ohonynt yn cynnwys:

Diagnosis cynharach
Triniaethau mwy personol ac osgoi sgîl-effeithiau meddyginiaeth
Nodi risgiau iechyd eraill.

Mae AaGIC yn sicrhau y gellir cynnig y gwasanaeth hwn i gleifion ledled Cymru fel bod y gofal gorau posibl yn cael ei ddarparu.

Pam mae angen i weithwyr gofal iechyd proffesiynol wybod am Genomeg?

Mae datblygiadau cyflym yn astudiaeth y genom dynol yn cynnig cyfleoedd enfawr i ofal iechyd, ni waeth beth yw eich maes ymarfer clinigol. Ni ellir gwireddu'r budd sylweddol hwn i gleifion yn GIG Cymru heb uwchsgilio pawb sy'n ffurfio ein gweithlu gofal iechyd er mwyn galluogi integreiddio genomeg yn fwy i lwybrau cleifion.

Cynllun Gweithlu Strategol ar gyfer Genomeg

Yn 2020, llofnododd Cymru fel partner yn Genome UK: dyfodol gofal iechyd (strategaeth 10 mlynedd i greu'r system gofal iechyd genomig fwyaf datblygedig yn y byd) ac wedi hynny cyhoeddodd Gynllun Cyflawni Genomeg ar gyfer Cymru 2022-2025 .

Un o'r camau gweithredu yng Nghynllun Cyflawni Genomeg Cymru oedd cynhyrchu Cynllun Gweithlu Genomeg Strategol . Gweithiodd Addysg a Gwella Iechyd Cymru mewn partneriaeth â Phartneriaeth Genomeg Cymru i gynhyrchu'r cynllun hwn, a chafodd ei lansio'n swyddogol ar 15 Tachwedd 2024.

Mae'r cynllun yn nodi map ffordd ar gyfer y tair blynedd nesaf gyda 33 o gamau gweithredu wedi'u nodi i gefnogi'r gweithlu i harneisio meddygaeth genomig er budd cleifion a'r boblogaeth.

Bydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn parhau i gydweithio â Phartneriaeth Genomeg Cymru (GPW) i gefnogi gweithredu'r cynllun.

GeNotes

Wedi'u datblygu gan GIG Lloegr, mae GeNotes yn adnoddau cyflym a chryno a all helpu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i wneud y penderfyniadau genomig cywir ym mhob cam o lwybr clinigol.

Bydd rhagor o adnoddau sy'n benodol i'r llwybrau clinigol yng Nghymru ar gael yn fuan.

Hyfforddiant Genomeg wedi'i Ariannu

Er mwyn ymgorffori genomeg fel gwasanaeth rheolaidd ledled gofal iechyd yng Nghymru, mae angen addysgu gweithlu GIG Cymru amdano a sut mae'n effeithio ar eu hymarfer.

Rydym wedi atodi isod gyfleoedd hyfforddi wedi'u hariannu mewn genomeg ar gyfer staff GIG Cymru.

Bydd y modiwl ar-lein byr, chwe rhan hwn yn rhoi dealltwriaeth sylfaenol i chi o genomeg, pam ei fod yn bwysig i'ch ymarfer, a sut y gallwch ei ddefnyddio i ddarparu gofal sy'n canolbwyntio ar y claf.

Gwahoddir holl staff GIG Cymru i ymgymryd â'r hyfforddiant hwn. Gellir cael mynediad at y modiwl drwy Y Ty Dysgu, system ddysgu ar-lein Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Bydd angen cyfrif arnoch ar Y Ty Dysgu gyda chyfeiriad e-bost '@wales.nhs.uk' i gael mynediad at yr hyfforddiant hwn.

Am hyfforddiant mwy manwl, mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn cynnig cyllid i staff GIG Cymru gwblhau modiwlau lefel MSc mewn meddygaeth genomig gyda Phrifysgol Caerdydd neu Fangor .

Mae'r modiwlau canlynol ar gael:

Genomeg clefydau etifeddol cyffredin a phrin
Cymhwyso genomeg mewn clefydau heintus
Technegau a thechnolegau omeg a'u cymhwysiad i feddygaeth genomig
Patholeg foleciwlaidd canser a'i gymhwysiad mewn diagnosis, triniaeth a monitro canser
Cyflwyniad i'r sgiliau cwnsela a ddefnyddir mewn meddygaeth genomig
Biowybodeg, dehongli, a sicrhau ansawdd data mewn dadansoddi genomig
Ffarmacogenomeg a gofal iechyd haenedig

Gwybodaeth Bellach a Chysylltiadau Defnyddiol

Gyda gweithlu sydd wedi'i hyfforddi'n dda a phrofion genomig priodol ar waith, gall GIG Cymru drawsnewid y ffordd y darperir gofal iechyd er budd cleifion. Am ragor o wybodaeth am y rhaglen genomig, cysylltwch â HEIW.Genomics@wales.nhs.uk

Genomeg mewn Iechyd
Cynllun cyflawni genomig Llywodraeth Cymru 2022-25
Genome UK: dyfodol gofal iechyd – dogfen gan Lywodraeth y DU
Genome UK: ymrwymiadau a rennir ar gyfer gweithredu ledled y DU 2022 i 2025 – papur polisi gan Lywodraeth y DU