Logo Academi Oncoleg Felindre

Trawsnewid Gofal Canser
Trwy Addysg

Academi Oncoleg Felindre

Cyrsiau Byrion

Cyrsiau Achrededig

Beth mae ein dysgwyr yn ei ddweud…

Diwrnod astudio gwych. Mynychais y Diwrnod Astudio Cyflwyniad i Imiwnotherapi a Rheoli Gwenwyndra, a oedd yn llawn sgyrsiau diddorol gan feddygon uchel eu parch a gweithwyr gofal iechyd cysylltiedig. Roedd y diwrnod wedi'i dargedu at unrhyw weithiwr gofal iechyd proffesiynol sydd â diddordeb mewn imiwnotherapi; triniaeth sy'n dod yn fwyfwy cyffredin. O'r herwydd, gallwn ni i gyd ddisgwyl gweld mwy a mwy o gleifion â gwenwyndra sy'n gysylltiedig ag imiwnotherapi, felly mae'n hanfodol ein bod ni'n ymwybodol o gyflwyniadau o'r fath. Rhoddodd y diwrnod astudio drosolwg cynhwysfawr o sut mae imiwnotherapi yn gweithio, gwenwyndra cyffredin, gwenwyndra a allai fod yn angheuol a chanllawiau ar reoli. Byddwn yn ei argymell yn fawr! – Cyflwyniad i Imiwnotherapi a Rheoli Gwenwyndra
Cwrs gwych. Rwyf wedi dysgu cymaint er fy mod i wedi bod yn gweithio am 10 mlynedd yng Nghanolfan Ganser Felindre. Rwy’n teimlo’n fwy ymwybodol, ac rwyf wedi elwa’n fawr o fynychu – Sylfeini mewn Gofal Canser
Mynychais y cwrs hwn o bell, ac fe wnaeth y cyflwyniad greu argraff fawr arnaf. Roeddwn yn teimlo fy mod yn cael fy nghynnwys ac yn cymryd rhan lawn cymaint â phetaswn i wedi mynychu mewn person – Sylfeini mewn Gofal Canser
Roedd yn addysgiadol iawn ac yn gymysgedd da o ddysgu a chymryd rhan. Wedi mwynhau'r elfennau rhyngweithiol yn y prynhawn - Cwrs Sylfeini mewn Oncoleg Acíwt
Mae gen i ddealltwriaeth dda nawr o sut i gymryd rheolaeth o'r sgwrs gan ddefnyddio dull Sage and Thyme. Nawr, mae strwythur i geisio ei ddilyn a allai helpu gyda gwaith a bywyd bob dydd – SAGE and THYME
Delwedd yn arddangos amgylchedd dysgu a gynhelir gan yr Academi

Addysg a hyfforddiant o safon uchel mewn Gofal Canser a thu hwnt

Llais y Dysgwr

%
Dywedodd dysgwyr eu bod yn teimlo'n hyderus ym mhwnc y cwrs ar ôl cwblhau eu rhaglen
%
Dywedodd dysgwyr eu bod naill ai'n fodlon neu'n fodlon iawn â'u rhaglen hyfforddi
%
Dywedodd dysgwyr y byddant yn gwneud newidiadau yn eu harfer yn dilyn hyfforddiant

Partneriaid yr Academi

Unrhyw gwestiynau?

P'un a hoffech ddysgu mwy am ein cyrsiau, cymryd rhan, neu siarad ynghylch marchnata a chysylltiadau cyhoeddus, rydym yma i ateb unrhyw gwestiynau.